P-05-822 Gwahardd gwellt plastig(wrth yfed llaeth) yn ein hysgolion, Gohebiaeth – Deisebydd at y Pwyllgor, 14.01.20

Sylwadau Senedd Ysgol y Wern

Mae Senedd Ysgol y Wern yn hynod o falch i glywed fod y defnydd o wellt plastig yn un o’r wyth argymhelliad gan ‘WRAP’ ar gyfer 2020. Hoffwn fel ysgol longyfarch y cwmnioedd sydd wedi ymrwymo i’r cytundeb (‘Pact’). Nodwyd yn ein cyfarfod fod nifer o’r archfarnadoedd mawr/cwmniau yn ein hardal leol yn ymddangos  a diolch eto i WRAP am anfon y wybodaeth yma. Yn sgil hyn hoffwn fel Senedd ofyn y cwestiwn ‘Pam nad yw’r safleoedd sy’n gwerthu coffi yn ymddangos ar y rhestr?’ Oes rheswm posib am hyn? Ein gobaith ar gyfer y dyfodol yw y bydd pob cwmni yng Nghymru yn ymrwymo i’r cytundeb ac y byddwn yn gweld y defnydd o wellt plastig yn llwyr ddiflannu yn ein hysgolion.